Gwastraff Gardd


Pa wastraff gwyrdd ellir ei ailgylchu?

Rhoddir biniau gwyrdd neu sachau gwastraff gardd amldro ar gyfer gwastraff gardd y gellir ei gompostio. Mae hyn yn cynnwys:

  • Glaswellt wedi’i dorri
  • Toriadau llwyni
  • Toriadau perthi
  • Planhigion marw
  • Dail
  • Blodau
  • Chwyn (mae rhai chwyn na allwn eu cymryd, gweler isod)

Mae gan awdurdodau lleol wahanol ofynion ynghylch ailgylchu. Edrychwch i weld pa finiau/sachau a ddefnyddir yn eich ardal chi. Os defnyddiwch y rhai anghywir, efallai na chaiff eich gwastraff gwyrdd ei gasglu.

Caerdydd
Bro Morgannwg 


Beth na chewch chi ei gynnwys?

Peidiwch â defnyddio’ch bin gwyrdd / sachau gwastraff gardd ar gyfer:

  • Carpion papur
  • Cardfwrdd (o unrhyw fath)
  • Eitemau gardd e.e. pibellau dyfrhau, caniau dŵr, dodrefn gardd, teganau gardd nac addurniadau gardd.
  • Gwastraff anifeiliaid anwes, eu gwasarn na’u deunydd gwely
  • Gwastraff bwyd
  • Plastig
  • Metal
  • Gwydr
  • Bagiau plastig
  • Rwbel na gwastraff adeiladu
  • Lludw
  • Potiau planhigion
  • Chwyn niweidiol – llysiau’r gingroen/creulys (ragwort), marchysgall (spear thistle), tafol crych (curled dock), dail tafol a chanclwm Japan 
  • Pren e.e. paneli o siediau, decin, ffensys, delltwaith (trellises)
  • Peiriannau torri gwellt neu ddyfeisiau trydan eraill
  • Gweddillion nac ymgarthion (baw) anifeiliaid
  • Asbestos

Pryd y caiff fy ngwastraff gwyrdd ei gasglu?

Caiff biniau gwastraff gardd gwyrdd a sachau amldro gwastraff gardd eu casglu rhwng 6am a 10pm. I baratoi ar gyfer y casgliad, gofalwch fod eich sach/bin ar y palmant cyn 6.00am ar fore’r casgliad ond nid cyn 4:30pm y diwrnod cynt. 

Edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol i weld pryd y cesglir gwastraff gwyrdd. Yn ystod y gaeaf, cynhelir llai o gasgliadau neu cynhelir gwasanaeth ar gais yn unig. Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i wefan eich awdurdod lleol trwy ddilyn y dolenni isod.

Caerdydd
Bro Morgannwg